Sunday, 21 November 2010

Croeso

Helo, shwmae :)

Miriam ydw i. Pwy yffach wyt ti?

A finnau bellach yn fyfyrwraig yn y brifysgol, mae'n amlwg bod gen i lot llawer o amser i wastraffi rhwng darlithoedd, gan fy mod wedi ystyried mynd ati i ail-ddechrau blogio.

Gewn ni weld faint o amser fydd hi nes i fi golli diddordeb y tro hyn.

Cymraeg a Ffilm a Theledu rydw i'n astudio (fi'n trial defnyddio 'nghymraeg gorau...), a dwi bellach yn un o'r miloedd o bobol ifanc sy'n byw bob dydd yng nghysgod y noson gynt.... a'n teipo ambell i draethawd nawr ac yn y man.

Ar hyn o bryd mae'n pad 'sgrifennu ar agor, yn edrych yn go gyhyddgar arnaf, yn barod i wneud gwaith seminar erbyn 'fory.

Dylswn i fod yn ei wneud nawr... ond dwi'n paentio 'ngwinedd yn las, ac yn golygu panicio am y peth deng munud cyn y ddarlith.

... O wel. :)

No comments:

Post a Comment