Yn steil High Fidelity, dwi yn golygu gwneud Top 5 o'r nosweithu allan dwi di cael erioed.
(Yn hytrach na gwneud gwaith seminar wrth gwrs...)
Felly dyma ni...
5. Nosweth San Steffan, llynedd
Noson speshal, ond od! Pawb allan yn tanco, gyda pawb yn trafod y diwrnod cynt, a swyn y Nadolig dal yn awyr. Efallai taw neis oedd hi i gal brec rhag y traddodiad arferol o gael swper bach "neis" gyda'r henoed adref.
4. Penblwydd Gwyn Stacey yn ddeunaw.
Waw. Y tro cynta' i fi gymysgu WKD a Bud a bennu lan yn giddy yn nhai bach Boat Club Llansteffan. Glowstick ym mhob man, a dawnsio fel ffwl i'r Arctic Monkeys. Gorffod mynd adre am DDEG oherwydd mod i'n gweithio'r diwrnod wedyn.
Dim yn barti speshal, ond eto, un o fy mharti's 18th cyntaf, ac felly'n atgof speshal.
3. Carnage Cyntaf Aberystwyth/ Trip I Tregaron
Methu dewis rhwng y ddwy nosweth yma, felly maent yn gydradd drydydd.
i. Carnage yn enw da amdano. Carnage oedd hi wir! Yn gwisgo t-shirt drud (£10 am ddarn o ddefnyd!!), a crwydro strydoedd Aber yn feddw gaib! Sefyll a posio yng nghanol rownd abowt, gan osgoi cael ein bwrw lawr, a bennu lan yn yr undeb yn ceisio chwilio lle i ddawnsio!
ii. Boteli ar y bws, a tanco ar ffordd lawr i high-jacio dwy dafarn Tregaron, a bwyta crisps Salt n Shake gyda Passoa a sudd oren. A wedyn i Reload! A pob can o'r 90au yn chwarae ffwl blast - a finnau'n dawnsio fel ffwl unwaith eto...
2. Ail Swn y flwyddyn yn Aber
Dydd Iau dwethaf. Y thema oedd "When I Grow Up...". Gwisges i lan fel pync. Felly pync, ffermwraig, Wonder Woman a Rygbi player, yn ymuno a chriw o Fois Y Cownsil (gyda'r slogan Diogi, Morio, Joio ar eu siacedu high-vis) ac yn mynd lan i'r Undeb am noson o ganu Cymraeg. Bryn Fon, Mattoidz, Derwyddon, Daf Iw, a phob can Cymraeg werth ei halen sydd wedi bod ar Radio Cymru erioed. Cwmni da, a digon o le i ddawnsio fel ffwl. Slipio ar pwdel ar y llaw, ac mae'r clais sydd gen i o ganlyniad i hynny ar y 'mhen glin yn MASIF. Hefyd dihuno a ffindio maneg arddio chwith un o fois y cownsil yn fy 'stafell.
1. Dirty Pop yng Nghlwb Ifor Bach.
Roedd hyn ond NEITHIWR.
Ond Clwb Ifor Bach yw fy nefoedd ar y ddaear. I gymharu a Walkabout y noswaith cynt, lle roeddwn yn teimlo fel darn o gig ymusg cawell o adar ysglyfaethus, roedd naws Clwb Ifor Bach yn hollol... wel, amazing! Ian Cottrell yn DJio, a finnau'n mynd i ofyn iddo whare S Club 7 yn arbennig i Aled Sheepy o'r Cyfoes, ac yn chwarae'r miwsig gorau yn y byd. Pob pop anthem wedi eu remixio i greu awyrgylch amazing i ddawnsio. Pawb mewn Converse.
Sylweddolais, taw dyna lle roeddwn yn gartrefol, ac ymusg pobol o'r un meddylfryd.
Gallen fod wedi aros yno tan i mi gael fy nhaflu allan.
Mae angen Clwb Ifor Bach ar Aber.
A dyna ni :)
No comments:
Post a Comment